Academi Gofal Gwynedd

Oes gennych chi, neu rywun rydych chi ei adnabod, diddordeb mewn gweithio mewn Gofal?

Mae Academi Gofal Gwynedd yn gyfle gwych i ddatblygu gyrfa yn y maes Gofal drwy weithio hefo pobl brofiadol, derbyn cymwysterau a chael cyflog yr un pryd!

Os hoffech chi wybod mwy, dewch draw am sgwrs i un o’n digwyddiadau galw draw sydd yn cael eu cynnal ar draws y sir.

Am fwy o wybodaeth am yr Academi ewch draw i’n gwefan: http://www.gwynedd.llyw.cymru/AcademiGofalGwynedd