Mae clefyd siwgr, neu ddiabetes math 2, yn gyflwr cyffredin sy’n effeithio ar y ffordd mae’r corff yn defnyddio glwcos (siwgr) yn y gwaed. Gall ddatblygu’n raddol dros amser ac mae’n bosibl na fydd rhai unigolion yn sylwi ar unrhyw symptomau am gyfnod hir. Mae’r newyddion cadarnhaol yw bod llawer o ffyrdd o reoli’r cyflwr a diogelu iechyd yn y tymor hir.
Yn Cyngor Gwynedd, rydym am annog staff i fod yn ymwybodol o’r cyflwr, adnabod y symptomau ac, os oes angen, ceisio cyngor a chymorth yn gynnar.
BETH YW’R SYMPTOMAU?
Gall symptomau clefyd siwgr math 2 gynnwys:
- Teimlo’n sychedig yn amlach na’r arfer
- Mynd i’r tŷ bach yn amlach, yn enwedig yn ystod y nos
- Blinder neu ddiffyg egni
- Pwysau’n gostwng heb reswm amlwg
- Gweledigaeth aneglur
- Clwyfau neu heintiau sy’n cymryd mwy o amser i wella
Mae’n bwysig cofio nad yw pawb yn profi symptomau amlwg, ac yn aml gall y cyflwr gael ei ganfod yn ystod profion iechyd arferol.
PAM MAE’N BWYSIG?
Pan fydd clefyd siwgr math 2 yn cael ei ddiagnosio a’i reoli’n gynnar, mae’n bosibl cymryd camau i wella iechyd a lleihau’r risg o gymhlethdodau yn y dyfodol. Gall hyn gynnwys newidiadau i ddiet, cynyddu gweithgarwch corfforol, mynychu gwiriadau iechyd rheolaidd a manteisio ar gymorth ac adnoddau addysgol.
Mae llawer o bobl yn sylwi ar welliannau fel mwy o egni, llai o syched, gwell cwsg a mwy o hyder wrth reoli eu hiechyd wrth iddynt wneud newidiadau bach cadarnhaol dros amser.
CYMORTH A GWYBODAETH AR GAEL
Mae ein Cynghorydd Arwyn Roberts, wedi gweithio ar y cyd â chydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd i helpu hyrwyddo adnodd gwerthfawr sydd wedi’i ddatblygu gan GIG Cymru.
Mae’r canllaw “Byw’n Dda gyda Diabetes Math 2” yn darparu gwybodaeth glir ac ymarferol ar bynciau megis yr hyn sy’n digwydd ar ôl diagnosis, meddyginiaethau, bwyd, gweithgarwch corfforol, monitro glwcos y gwaed, llesiant emosiynol a ffynonellau cymorth dibynadwy. Mae’r adnodd wedi’i ddatblygu ar y cyd â phobl sy’n byw gyda diabetes, gweithwyr iechyd proffesiynol a Diabetes UK.
Gallwch gael mynediad at y canllaw yma:
Canllaw i fyw’n dda ar ôl diagnosis newydd o ddiabetes math 2 – Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru
NEGES GAN ARWYN
“Fel rhywun sy’n byw gyda chlefyd siwgr, rwy’n ymwybodol iawn o’r effaith y gall y cyflwr ei gael ar unigolion o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, yr hyn rwyf wedi’i ddysgu dros amser yw y gall newidiadau bach a realistig i’n ffordd o fyw wneud gwahaniaeth mawr dros y tymor hir.
Cyn cael diagnosis, nid oeddwn yn ymwybodol o lawer o’r wybodaeth, y cymorth a’r adnoddau sydd ar gael. Oherwydd hynny, roeddwn yn gweld y gwaith hwn yn werth chweil gan ei fod yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr ac yn cyfeirio pobl at wybodaeth ymarferol a dibynadwy.
Gobeithio y bydd yr adnodd hwn yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd newydd gael diagnosis, yn byw gyda’r cyflwr ers peth amser, neu sydd eisiau syniadau newydd i wella eu hiechyd a’u ffordd o fyw. Yn aml iawn, y camau lleiaf sy’n arwain at y newidiadau mwyaf dros amser.”
EISIAU GWYBOD MWY?
Mae rhagor o wybodaeth, adnoddau a chefnogaeth iechyd a llesiant ar gael drwy HWB Iechyd, Diogelwch a Llesiant y Cyngor: Iechyd Corfforol/ Physical Health
