“Mae gweithio i’r Cyngor wedi rhoi sefydlogrwydd i mi dros y blynyddoedd” – Karl Jones.

Hafan E Newyddion E “Mae gweithio i’r Cyngor wedi rhoi sefydlogrwydd i mi dros y blynyddoedd” – Karl Jones.

“Mae gweithio i’r Cyngor wedi rhoi sefydlogrwydd i mi dros y blynyddoedd” – Karl Jones.

Dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae Cyngor Gwynedd wedi darparu gwasanaethau hanfodol, cefnogi cymunedau a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ledled y sir.

Wrth i'r Cyngor ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed eleni, rydym yn hel atgofion gyda rhai o'r staff sydd wedi bod yn rhan o'r daith ers y cychwyn, yn gwasanaethu pobl Gwynedd.

Karl Jones, Arweinydd Tîm Rheolaeth Adeiladu

Teitl swydd 30 mlynedd yn ôl a rŵan?

Cefais fy mhenodi gan Gyngor Dosbarth Meirionnydd ar 1 Mai 1990 fel Swyddog Cynorthwyol Rheolaeth Adeiladu, gydag Allen Main yn rheolwr yr adran ar y pryd.

Bryd hynny, roedd y tîm yn cynnwys rheolwr, dau uwch swyddog a dau gynorthwyydd yn gwasanaethu ardal Meirionnydd. Heddiw, bron i bedwar degawd yn

ddiweddarach, rwy’n gwasanaethu fel Arweinydd Tîm Rheolaeth Adeiladu De Gwynedd.

 

Sut mae eich swydd wedi newid dros y blynyddoedd?

Pan ddechreuais fel Swyddog Cynorthwyol Rheolaeth Adeiladu, roeddwn yn treulio'r rhan fwyaf o'm hamser yn swyddfa Dolgellau. Ers cyfnod COVID, rwyf wedi bod yn gweithio gartref sawl diwrnod yr wythnos. Er bod hynny'n lleihau'r teithio, rwy'n colli'r hwyl a'r cwmni oedd i'w gael yn y swyddfa. Doedd dim sôn am gyfarfodydd Teams yn 1990. Bryd hynny roedd gwaith papur a ffeilio yn ganolog i'r swydd. Rwy’n cofio cael fy ffôn symudol cyntaf. Roedd yn enfawr, bron maint bag siopa! Serch hynny, roedd y dechnoleg newydd honno’n galluogi swyddogion i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd tra ar ymweliadau safle.

Ers trychineb Grenfell, mae rheoliadau Rheolaeth Adeiladu wedi newid a thynhau’n sylweddol. Erbyn hyn, mae’n ofynnol yn statudol i bob swyddog fod wedi’i gofrestru, ac mae hynny’n cynnwys sefyll arholiadau a mynychu cyfweliadau.

 

Beth sydd wedi eich cadw yn y Cyngor am y 30 mlynedd diwethaf?

Mae gweithio i’r Cyngor wedi rhoi sefydlogrwydd i mi dros y blynyddoedd. Rwyf wedi gwerthfawrogi’r sicrwydd o gyflog misol, gwyliau rheolaidd, a’r cyfleoedd i ddatblygu fy ngyrfa a llwyddo mewn arholiadau proffesiynol. Mae’r ffaith fy mod wedi gallu adeiladu pensiwn ar gyfer fy ymddeoliad hefyd wedi bod yn bwysig iawn i mi.

 

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich gwaith?

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweithio ar draws Gwynedd, gan gefnogi gwahanol ardaloedd a goruchwylio amrywiaeth o brosiectau adeiladu. Cefais hefyd y cyfle i fod yn rhan o ddigwyddiadau fel Eisteddfodau’r Bala, Sesiwn Fawr Dolgellau a Festival No. 6. Mae’r amrywiaeth a’r profiadau hyn wedi gwneud fy ngyrfa yn un hynod bleserus, ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn o fod wedi mwynhau gyrfa hir a hapus.